Resources > Service > Prayers > Prayers in Welsh

NEW

Gweddiau

"Yn ôl fel y derbyniodd pob un ohonoch ddawn, defnyddiwch eich dawn yng ngwasanaeth eich gilydd, fel gweinyddwr da ar amryfal ras Duw" 1 Pedr 4:10.

Diochwn am ein Gwasanaeth Iechyd.

Gweddiwn am ddoethineb i'n Gweinidogion Iechyd, Patricia Hewitt yn San Steffan, Brian Gibbons yng Nghynulliad Cymru, a Andy Kerr yng Nghynulliad yr Alban.

Cofiwn am y rhai sydd mewn awdurdod yn ein Byrddau Iechyd, Gofal Meddwl a Gofal yn y Gymuned.Gweddiwn am ddoethineb, i rannu'r cyllid yn effeithiol a dealltwriaeth i greu amodau gwaith boddhaol.

Dioch am weithwyr ein Gwasanethau Iechyd, boent yn gweithio yn y gymuned neu'r ysbytai, yn feddygon, nyrsus, lanhawyr, ysgrifennyddion, therapryddon. Y rhai ar flaen y gâd neu yn y cefndir.

Diolchwn am gamau mawr ymlaen i drin gwahanol afiechydon, oherwydd gwaith ymchwil. Gweddiwn am wroldeb i'r Bwrdd Ymchwil Meddygol, i droi i lawr ceisiadau am grantiau i gynlluniau ymchwil wrth foesegol.

Gweddiwn yn yr arbennig dros " Human Fertilisation and Embryology Authority" a chyrff eraill i wythwynebu ymchwil sydd yn defnyddio celloedd embryo, ac annog defnyddio celloedd oedolion.

Eiriolwch na fydd rhagor o ddeddfau yn cyfreithloni " Euthanasia". Gweddiwn y bydd y cyfryngau a’r farn gyhoeddus yn cynyddu yn eu gwrthwynebiad i “Euthenasia”; ac am gyfleoedd i Gyfundrefnau Cristnogol ac eraill i siarad dros y gwael a'r gwan.

Gweddiwn yn arbennig am Gristnogion cymwys, boent yn ddiwynyddion, ymchwilwyr, darlithwyr, neu farnwyr i allu trafod yn glir ynglyn a " Euthanasia", a’r defnydd o gelloedd embryo a phynciau moesol eraill.     

Cofiwn am y rhai sy'n gorfod delio gyda sefyllfaoedd anodd, rhai sydd yn groes i ddaliadu eu ffydd, yn eu gwaith o ddydd i ddydd.

" Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, y Tad sy'n trugarhau a'r Duw sy'n rhoi pob diddanwch. Y mae'n ein diddanu ym mhob gorthrymder er mwyn i ninnau trwy'r diddanwch a gawn ganddo ef, allu diddanu'r rhai o dan bob math o orthrymder".  I Cor1:3,

Grateful thanks is given to Healthcare Christian Fellowship - Wales for these prayers.

news